Rhif y ddeiseb: P-06-1287

Teitl y ddeiseb: Rhaid ymchwilio i benderfyniad Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i gau’r feddygfa yng ngogledd Penarth a symud cleifion i feddygon teulu sydd ymhell i ffwrdd.

Geiriad y ddeiseb:

Rydym am ddwyn i gyfrif swyddogion y Bwrdd Iechyd a gwleidyddion sydd wedi cynllwynio i gau’r feddygfa ar Heol Albert (yng ngogledd Penarth) a symud cleifion i feddygfeydd Sili a Dinas Powys, yn ogystal â gorlwytho meddygfa Stanwell (Penarth Healthcare) yn ddifrifol. Credwn fod yr Aelod o’r Senedd lleol Vaughan Gething yn gwybod am y cynllun a gallai fod wedi tynnu sylw’r Gweinidogion a’r comisiynwyr perthnasol ar gyfer Pobl Hŷn, Plant a Chenedlaethau’r Dyfodol at y pryderon i gynnal yr egwyddor o wasanaethau gofal iechyd yn agos i’r cartref. Mae'r system wedi ein siomi.

Ar ôl cael rhybudd rai blynyddoedd yn ôl fod prydles y feddygfa ar fin dod i ben, gwrthododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro brynu’r adeilad ar Heol Albert. Cafodd cynllun y Bwrdd i ddarparu adeilad amgen newydd yn ardal Cogan, sydd ymhell i ffwrdd, ei wrthod yn gyhoeddus. Nid oedd y cynllun hwn yn bodloni’r egwyddor o ddarparu gwasanaethau iechyd yn agos i gartref.

Roedd cynlluniau olynol a luniwyd gan y Bwrdd Iechyd ar gyfer creu hwb llesiant yn ardal Cogan yn diystyru hygyrchedd gwael y safle. Roedd y dewis a wnaed o ran safle yn gwahaniaethu yn erbyn yr henoed a phobl â chyfyngiadau symudedd. Gwrthododd y Bwrdd helpu’r feddygfa ar Heol Albert i barhau i weithredu. Yn hytrach, cynigiodd gyllid i feddygfeydd yn Sili, Penarth a Dinas Powys, er mwyn iddynt allu ehangu a chymryd cyfrifoldeb dros y 7,000 o gleifion dan sylw. Ni wnaeth y Bwrdd Iechyd Prifysgol ymgynghori ar y cynllun hwn. Mae ansawdd y gofal a ddarperir ym meddygfa Stanwell (Penarth Healthcare) wedi gwaethygu ers i’r feddygfa gael ei gorlwytho gan gleifion. Credwn mai dim ond 7 meddyg teulu sydd ar gyfer 17,000 o gleifion. Penderfyniad y Bwrdd Iechyd i fynd ar drywydd eiddo (adeilad) newydd yn y lleoliad anghywir sydd ar fai.
Mae modd i’r Bwrdd gydnabod ei gamgymeriad o hyd, a phrynu Meddygfa Albert oddi wrth y datblygwr eiddo.


1.        Cefndir

Ym mis Tachwedd 2021, cyhoeddodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chyngor Bro Morgannwg ddatganiad yn nodi cefndir y materion yn ymwneud â Meddygfa Heol Albert:

Yn dilyn yr hysbysiad bod y landlord wedi cyflwyno rhybudd ar yr adeilad, ac yn dilyn hynny, penderfyniad y feddygfa i roi eu contract Gwasanaethau Cyffredinol Meddygol (GMS) yn ôl, mae’r ddau sefydliad wedi ymrwymo i archwilio opsiynau i gynnal Gwasanaethau Meddygon Teulu ar gyfer y gymuned leol o fis Ebrill 2022 ymlaen.

Mae ffocws y BIP ar ddod â gofal yn nes at gartref ac aros o fewn y gymuned leol yn rhan o’r uchelgeisiau gofal sylfaenol tymor hirach ar gyfer Canolfan Iechyd a Lles yng Nghogan ym Mhenarth.

Mae’r BIP a’r Awdurdod Lleol yn gefnogol o ran egwyddor i Ganolfan Les Cogan ac mae’r BIP yn datblygu’r rhaglen waith sy’n ofynnol i gadarnhau achos busnes i gefnogi hyn. Fodd bynnag, mae’n bwysig ailadrodd mai opsiwn tymor canolig yw hwn, a bydd angen ei drafod ymhellach gyda Chyngor Bro Morgannwg, yn ogystal â’r prosesau cynllunio a chymeradwyo angenrheidiol a’r ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid allweddol a’r gymuned wrth i’r cynlluniau gael eu datblygu.

Bydd cleifion yn parhau i allu cael gafael ar wasanaethau gofal sylfaenol ym Meddygfa Heol Albert tan 18 Mawrth 2022. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r gymuned leol am sut y bydd gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn y dyfodol, wrth i ni geisio dod o hyd i ddatrysiad cynaliadwy. Hoffem ailadrodd na fydd unrhyw gleifion yn yr ardal hon yn colli mynediad at wasanaethau meddyg teulu.

Hoffai’r BIP ddiolch i’r gymuned am eu hamynedd yn ystod yr adeg hon, a gallwn sicrhau cleifion ein bod yn ymrwymedig i ddatrys hyn er mwyn diwallu anghenion gofal iechyd cynaliadwy’r boblogaeth leol ym Mhenarth.

Clywodd Bwrdd y BIP yn ei gyfarfod ar 27 Ionawr 2022 y canlynol:

COVID had delayed the building of the hub planned for Penarth.[…] Due to that delay one of the practices that was due to move into the new hub had notice served on its accommodation. (p.164)

Cafodd y Bwrdd ddiweddariad hefyd yn ei gyfarfod ar 31 Mawrth 2022:

The Independent Member – Finance (IMF) noted the concerns around the sustainability of GMS and highlighted that a number of practices had handed their GMS contracts back to the Health Board. He asked if any other practices were at risk. The UHB Chair responded that a practice in Penarth had been taken back due to the landlord wanting to sell the building. The matter had been effectively managed by the Primary Care Team with an agreement reached for patients to be transferred to other practices in the local area (p.15)

Roedd cau Meddygfa Heol Albert yn gyfan gwbl ym mis Mawrth 2022 wedi denu rhywfaint o sylw beirniadol yn y wasg , gyda rhai cleifion yn holi pam na chamodd Llywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd i’r adwy i achub y feddygfa, a phryderon am rai cleifion nad oeddent yn gallu cael mynediad i’r meddygfeydd newydd a ddyrannwyd iddynt.

Clywodd Bwrdd y BIP hefyd ar 31 Mawrth 2022 (t.231), 30 Mehefin 2022 (t.128), a 28 Gorffennaf 2022 (t.15) fod cynllun gwreiddiol Hwb Llesiant Penarth yn cael ei adolygu oherwydd gofynion newidiol Awdurdodau Lleol.

2.     Ymateb Cyngor Iechyd Cymuned

Siaradodd Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg â'r cyfryngau ym mis Tachwedd 2021, gan gydnabod ei bod yn sefyllfa anodd i’r Bwrdd Iechyd. Galwodd am amser i ddod o hyd i ateb, a nododd fod y Cyngor Iechyd Cymuned yn gweithio i roi sicrwydd i gleifion ym Mhenarth y byddai ganddynt fynediad at Feddyg Teulu yn y dyfodol. Ar yr un pryd, nododd Prif Swyddog y Cyngor Iechyd Cymuned na ddylai cleifion sydd wedi'u cofrestru ym meddygfa Heol Albert symud i feddygfa arall oherwydd y byddent yn cynyddu'r galw yn Redlands a Penarth Health Partnerships.

Ym mis Chwefror 2022, cynhaliodd y Cyngor Iechyd Cymuned ddigwyddiad rhithwir i ymgysylltu â’r cyhoedd ynglŷn â chau Meddygfa Heol Albert. Nododd y Cyngor Iechyd Cymuned "Er na fydd y digwyddiad hwn yn atal y cau rhag digwydd, fe fydd yn rhoi cyfle i gleifion a’r cyhoedd yn ehangach rannu eu barn a’u profiadau”.

Cafodd y Cyngor Iechyd Cymuned Llawn ddiweddariad ynghylch y digwyddiad ar 9 Mawrth 2022

Nodwyd bod y BIP wedi cadarnhau yn y cyfarfodydd cyhoeddus bod arian ychwanegol wedi'i ddarparu i bractisau cyfagos ar gyfer staff ychwanegol a llinellau ffôn i helpu i reoli'r cleifion ychwanegol a byddai'r Cyngor Iechyd Cymuned yn monitro profiad cleifion wrth symud ymlaen. Byddai Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro hefyd yn trosglwyddo i'r gwasanaeth 111 a byddai angen monitro hyn yn ofalus ar gyfer profiad cleifion wrth symud ymlaen.

3.     Ymateb Llywodraeth Cymru

Ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ar 27 Gorffennaf 2022 mewn ymateb i'r ddeiseb, gan ddweud ei bod yn gwerthfawrogi'r pryderon a godwyd, ond:

Roeddwn i’n gwybod bod practis Heol Albert wedi rhoi gwybod ei fod yn dirwyn ei gontract i ben oherwydd gwerthu’r adeilad. Mae Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol yn pennu’r cyfnod hysbysu y mae angen i bractisau ei ddarparu mewn perthynas â chontractau, ac mae pob bwrdd iechyd â threfniadau ar waith i ymateb i ddigwyddiad o’r fath er mwyn iddo allu cynllunio sut y gellir parhau i ddarparu gwasanaethau i gleifion. Mae sicrhau bod gwasanaethau meddygol cyffredinol yn gynaliadwy yn un o brif flaenoriaethau Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Mae tîm gofal sylfaenol y bwrdd iechyd yn gweithio gyda’r practis i sicrhau bod cleifion yn cael eu symud i bractisau cyfagos, drwy gytundeb, yn seiliedig ar y capasiti sydd ar gael. Mae’r tîm gofal sylfaenol yn parhau i roi cymorth i’r practis, gan weithio gyda’r practisau eraill i fonitro sut mae gwasgaru’r cleifion yn effeithio ar eu mynediad at wasanaethau.

Mae’r cynlluniau i adeiladu canolfan iechyd a gofal integredig yn y dyfodol i wasanaethu ardal Cogan yn parhau i gael eu hystyried, gyda thrafodaethau’n cael eu cynnal rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol. Rwy’n deall bod opsiynau’n parhau i gael eu profi er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.